Dod i Fangor i wneud gwahaniaeth

Gwnewch wahaniaeth ym Mhrifysgol Bangor

Gwnewch ymholiadau yn awr

Os na wnawn ni weithredu, mae cwymp ein gwareiddiadau a difodiant llawer o'r byd naturiol ar y gorwel.

Syr David Attenborough – deiliad gradd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor - ar hinsawdd ein planed yn chwalu.

Gwneud gwahaniaeth

Dim ond rhai o'r heriau sy'n wynebu'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr yw newid yn yr hinsawdd, llygredd a datgoedwigo. Mae'r ffaith eich bod yn darllen hwn yn golygu eich bod yn deall maint y broblem. Yn bwysicach na dim, mae'n golygu eich bod eisiau gwneud rhywbeth i newid y sefyllfa sydd ohoni - rydych eisiau gwneud gwahaniaeth.

Ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn y lle gorau posibl i ddysgu, ymchwilio a datblygu'r wyddoniaeth a fydd, un diwrnod, yn helpu i newid trywydd y byd. Dyfodol gwell.

Gall unrhyw brifysgol roi gradd i chi, ond gall Bangor - prifysgol 'werdd', ddangos i chi sut i wneud gwahaniaeth.

Os ydych yn angerddol am swoleg, y cefnforoedd, gwyddorau hinsawdd, bioleg môr, monitro data, biotechnoleg, peirianneg meddalwedd neu unrhyw un arall o'r myrdd o bynciau sy'n hanfodol i ymchwil amgylcheddol, byddwch yn dod o hyd i gwrs sy'n addas i chi ym Mhrifysgol Bangor.

Cewch eich dysgu gan arbenigwyr blaenllaw yn eu maes, gan ddefnyddio cyfleusterau heb eu hail; fel ein llong ymchwil sy'n mynd dros y môr, fferm gweithio, gardd fotaneg, labordai deallusrwydd artifficial ac ystafell lân, acwaria môr a dŵr croyw, adardai, labordy pridd tanddaearol, a labordai blaengar. Mae'r cwbl yn cynnig astudiaethau maes o amgylch arfordir Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri, neu ymhellach i ffwrdd mewn lleoedd fel Affrica, Antartica, yr Unol Daleithiau ac India.

Ar ddiwedd eich cyfnod ym Mangor gallwch edrych ymlaen at dderbyn cymhwyster uchel ei barch i gael gyrfa gwerth chweil a hanfodol yn y gwyddorau naturiol - gyda'r sgiliau a'r wybodaeth lawn a'r penderfyniad i wneud gwahaniaeth go iawn.

Byddwch y cyntaf i wybod

Byddwch y cyntaf i wybod beth sy'n digwydd ym Mhrifysgol Bangor a chael awgrymiadau ar y broses o wneud cais i brifysgol.

Ydych chi eisiau achub y blaen ar y tyrfaoedd a chael gwybod pryd mae diwrnodau agored y brifysgol nesaf? Ydych chi'n meddwl tybed beth rydym yn chwilio amdano yn eich datganiad personol?

Anfonwch eich manylion cysylltu atom, a chewch y newyddion diweddaraf am bopeth sy'n digwydd yn y Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg ym Mhrifysgol Bangor.

Gadewch i ni eich helpu

Astudio ar gyfer Lefel UG neu Lefel A? Gallwch lawrlwytho ein canllawiau adolygu yn rhad ac am ddim i'ch helpu.


Ble mae Bangor?

Mae Bangor yng nghanol un o'r ardaloedd harddaf a mwyaf poblogaidd i ymwelwyr yn y DU - Gogledd Cymru. Gyda mynyddoedd godidog Parc Cenedlaethol Eryri a thraethau hyfryd Ynys Môn , mae Gogledd Cymru wedi ennill pleidlais fel un o leoliadau gorau'r byd gan y Lonely Planet a'r LA Times.

Felly gallwch astudio yn y brifysgol lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn dod ar eu gwyliau, gyda dinas hanesyddol Caer dim ond awr i ffwrdd.

Astudio rhwng y môr a'r mynydd

Cynlluniwch eich taith i Fangor

Trenau uniongyrchol i Fangor Llundain, Birmingham, Caerdydd, Manceinion

Mae ein staff yr un mor angerddol am wneud gwahaniaeth ag yr ydych chi

Rwy'n edrych ar ffyrdd o atal marwolaethau rhag brathiadau gan nadroedd yn India, sydd ar gynnydd oherwydd y newid yn yr hinsawdd.

Dr Anita Malhotra – Ysgol Gwyddorau Naturiol

Dr Anita Malhotra Ysgol Gwyddorau Naturiol

Mae riffiau cwrel dan fygythiadau digynsail yn sgil newid yn yr hinsawdd ac effeithiau dynol lleol - rydym yn gysylltiedig â dod o hyd i ffyrdd i'w hamddiffyn.

Yr Athro John Turner – Ysgol Gwyddorau Eigion

Yr Athro John Turner Ysgol Gwyddorau Eigion

Rydym yn ymchwilio i sut y gall Deallusrwydd Artiffisial leihau allyriadau carbon o ddyfeisiau bob dydd yn ein cartrefi.

Dr David Perkins – Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig

Dr David Perkins Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig

Sut mae ein myfyrwyr eisiau gwneud gwahaniaeth

Bethany Howe

Mae gen i ddiddordeb mawr yng nghyfansoddiad biolegol anifeiliaid, eu hamgylchedd a sut mae hyn yn effeithio ar gynefinoedd a phoblogaethau. Dw i eisiau gwneud gwahaniaeth yn y byd, a bydd astudio sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor yn fy helpu i gyflawni hyn.

Bethany Howe - Zoology

Daisy Taylor

Ar ôl cymhwyso, dwi esiau gweithio ar brosiectau i adfer ecosystem mangrof. Maen nhw’n bwysig iawn i amddiffyn arfordiroedd trofannol, felly bydd eu hadfer a’u gwarchod yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau arfordirol.

Daisy Taylor - Marine Biology

Stephanie Evans

Mae Prifysgol Bangor wedi rhoi’r sgilliau imi ddod yn llysgennad STEM, sydd wedi rhoi cyfleoedd i mi ymweld ag ysgolion i ddysgu a datblygu sgilliau cyfrifiadurol.

Stephanie Evans - CSEE

Cymerwch ran

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a dywedwch wrthym sut rydych eisiau gwneud gwahaniaeth #makeadifference


Edrych ymlaen at ddechrau arni? Gwnewch gais yn awr am un o'n graddau a dechrau gwneud gwahaniaeth ar unwaith.